Adroddiad Effaith

10 mlynedd o ledaenu’r ‘Pethau Da’

Gair am Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd

Gŵyl y Dyn Gwyrdd yw un o'r gwyliau mwyaf poblogaidd yn y Byd (NME). Un o’r tair gŵyl fawr annibynnol sydd ar ôl yn y DU, ac mae'r ŵyl yn adnabyddus am y canlynol:

  • Dulliau dethol artistiaid a phrofiad cynulleidfa o safon uchel:

    5* Guardian, Independent, Telegraph, NME; BBC 6 Music Best UK Festival ac enwebai NME Best Festival in the World

  • Lansiwr Talentau:

    Fontaine DC, Self Esteem, Alt J, Black Country New Road

  • Amrywiaeth a Chynhwysiant:

    Gold Charter Attitude is Everything

  • Cydraddoldeb Rhywedd:

    Women in Music, Cosmopolitan

  • Ymarferion gorau amgylcheddol:

    Vision 2025, partneriaeth gyda A Greener Future

Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yw cangen elusennol Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Ers 10 mlynedd, mae'r Ymddiriedolaeth wedi bod yn gwneud i 'Bethau Da' ddigwydd - datblygu artistiaid talentog, hyrwyddo cenedlaethau'r dyfodol, ymgysylltu â gwyddoniaeth, iechyd a'r amgylchedd a gweithio gyda chymunedau yng Nghymru i sicrhau newid cymdeithasol cadarnhaol.

Ein Cenhadaeth

*

Ein Cenhadaeth *

DATBLYGU’R CELFYDDYDAU

Cerddoriaeth, y Celfyddydau Perfformio a’r Celfyddydau Gweledol

HYFFORDDIANT BYD REAL

Ar gyfer oedolion a phobl ifanc sydd mewn perygl

NEWID CYMDEITHASOL CADARNHAOL

Yng nghymunedau Cymru a thu hwnt

YMGYSYLLTU Â GWYDDONIAETH

Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ymwybyddiaeth o iechyd

‘Mae gwerthoedd y Dyn Gwyrdd yn treiddio trwy bopeth a wneir ganddynt. Pan fyddwch chi mewn digwyddiad Dyn Gwyrdd rydych chi'n gwybod beth maen nhw'n ei gynrychioli. Maen nhw’n ymgysylltu â’r gymuned leol ac yn ei chefnogi ac ar yr un pryd yn aros yn rhan o gymuned fyd-eang o artistiaid a chynulleidfaoedd. Maen nhw’n rhoi Cymru ar y map, nid yn unig gan fod yr ŵyl hon yn un unigryw a llwyddiannus a’r amgylchedd yn hardd, ond gan eu bod yn modelu sut i fod yn sefydliad cyfrifol ac ymatebol. Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd wrth wraidd yr ethos hwn ac nid yw'r dylanwad a gafodd dros y 10 mlynedd hon yn ddim llai na rhyfeddol.'

Colin Riordan, Cyn-Lywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd

EIN STORI

Ers 2014:

  • £1,800,000 +

    wedi ei godi ar gyfer ein prosiectau a’n hachosion da

  • 12,000 +

    o bobl wedi cael eu cynorthwyo

  • 5,000 +

    artistiaid

  • 2,000 +

    o leoliadau hyfforddi

  • 200 +

    o brosiectau ymgysylltu newydd â gwyddoniaeth

  • 170 +

    o brosiectau cymunedol

Sut ydym yn mynd ati i godi arian…

Sut ydym yn gwario arian…

EIN PROSIECTAU

*

EIN PROSIECTAU *

Datblygu’r Celfyddydau Cerddoriaeth

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel digwyddiad i ddarganfod talent a doniau newydd. Mae ein rhaglen datblygu cerddoriaeth yn defnyddio'r ŵyl fel platfform, a dylanwad cerddoriaeth helaeth y rhai sy’n mynychu a'r brand er mwyn cefnogi perfformwyr sy'n dod i'r amlwg ac sydd ar eu ffordd i fod yn brif artistiaid y dyfodol.

Datblygu’r Celfyddydau
Y Celfyddydau Perfformio

Mae rhaglen datblygu Celfyddydau Perfformio Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn ymwneud â chefnogi sector celfyddydau awyr agored Cymru ac yn defnyddio cyrhaeddiad rhyngwladol y Dyn Gwyrdd fel sbardun i artistiaid ddatblygu cynulleidfaoedd newydd a rhoi cynnig ar syniadau newydd, gyda chefnogaeth arbenigedd technegol a chynhyrchu helaeth tîm yr ŵyl. Bellach mae'n un o'r dyddiadau allweddol yng nghalendr teithiol cenedlaethol yr Haf. Gyda strategaeth ryngwladol yn cael ei datblygu, rydym yn cysylltu artistiaid o Gymru â marchnadoedd newydd ar gyfer teithio a chyflwyno gwaith rhyngwladol na welwyd mo’i debyg yng Nghymru o'r blaen.

Datblygu’r Celfyddydau
Y Celfyddydau Gweledol

Yn 20216 dechreuodd ein rhaglen Celfyddydau Gweledol greu gofod newydd ar gyfer celfyddyd yn yr ŵyl gerddoriaeth. Rydym yn gwahodd artistiaid a chynulleidfaoedd i feddwl y tu allan i'r ciwb gwyn. Dyma'r unig raglen yn sin gwyliau’r DU lle ceir dull sy’n meithrin yr artistiaid o ddifrif, ac sy’n cynnig model sy’n gyfuniad o gwrs preswyl a chomisiwn dros gyfnod o 12 mis. Mae artistiaid gweledol ar ddechrau eu gyrfa yn cael cefnogaeth gan dîm profiadol y Dyn Gwyrdd er mwyn creu gwaith celf ar raddfa fawr ar gyfer yr awyr agored am y tro cyntaf, ei gyflwyno i gynulleidfa fyw o filoedd o bobl a manteisio ar y cyfryngau cenedlaethol sy'n dod i'r ŵyl bob blwyddyn.

Datblygiad Personol, Hyfforddiant Sgiliau a Sgiliau Rhyngbersonol i Bobl Ifanc

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r Dyn Gwyrdd a darparwyr addysg yng Nghymru i gynnig hyfforddiant yn y byd go iawn. Mae ein rhaglenni'n meithrin sgiliau mewn ystod eang o feysydd proffesiynol ac ar yr un pryd yn datblygu sgiliau rhyngbersonol y cyfranogwyr. Rydym yn cynnal lleoliadau mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Choleg Merthyr. Mae'r rhaglenni'n brofiadau dysgu dwys ‘unwaith mewn bywyd’ sy'n creu argraff ar CVs pobl ifanc ac yn caniatáu iddynt rwydweithio a gweithio ochr yn ochr â goreuon proffesiynol y diwydiant.

Hyfforddiant Sgiliau a Sgiliau Rhyngbersonol – Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Gan weithio mewn partneriaeth ag Oasis Cardiff a’r Dyn Gwyrdd, rydym yn cynnig prosiect hyfforddi sy'n cefnogi integreiddiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Mae'r cyfan yn ymwneud â rhoi Croeso Cynnes Cymreig iddynt wrth ddechrau ar eu bywydau newydd mewn gwlad newydd. Mae 30 o gyfranogwyr yn cymryd rhan bob blwyddyn ac maen nhw’n datblygu sgiliau newydd yn y meysydd canlynol :

-       Iechyd a diogelwch, gweithdrefnau gadael mewn argyfwng tân, rheoli torfeydd a gwasanaethau cwsmeriaid

-       Sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm, arweinyddiaeth a rhyngbersonol

Yn ogystal â bod yn rhan o draddodiad hanfodol haf Prydeinig, mae'r prosiect yn hybu hyder cyfranogwyr a’r ymdeimlad o bwrpas ac o berthyn i'w cymuned newydd. Mae'n helpu i herio stereoteipiau negyddol a hyrwyddo dealltwriaeth o brofiadau byw ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Newid Cymdeithasol Positif yng Nghymunedau Cymru

Mae cefnogaeth gymunedol yn DNA’r Dyn Gwyrdd ac ers dros 22 mlynedd mae'r ŵyl wedi gwneud cyfraniadau gwerth miloedd o bunnoedd i grwpiau cymunedol ac ysgolion lleol. Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd wedi gweithio mewn partneriaeth â'r ŵyl yn ystod y 10 mlynedd diwethaf i fynd â'r gefnogaeth hon ymhellach fyth. Gyda'n gilydd, rydym yn creu newid cadarnhaol yn y cymunedau lleol boed hynny drwy godi arian i'r rhai y mae trychinebau naturiol yn effeithio arnynt, cyfrannu i Fanciau Bwyd, cefnogi clybiau chwaraeon a hobïau, cynulliadau cymunedol sy'n mynd i'r afael ag unigrwydd ac sy’n annog cynwysoldeb, atgyweirio seilwaith lleol adeiladau sy'n cynnal ymgysylltu â'r gymuned, cefnogi ysgolion lleol a dod o hyd i offer i bobl ag anableddau.

Ymgysylltu â Gwyddoniaeth, yr Argyfwng Hinsawdd ac Iechyd

Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd wedi bod yn ymgysylltu â 400,000+ o bobl o gefndiroedd gwahanol drwy ddefnyddio gwyddoniaeth yng Ngardd Einstein Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Mae’r gofod hwn yn rhywle lle mae gwyddoniaeth yn ymdreiddio i’r celfyddydau, comedi, syrcas, cerddoriaeth a theatr. Dyma’r ardal gyntaf mewn gŵyl gerddoriaeth yn y DU lle cafwyd y cysylltiad hwn â gwyddoniaeth. Cydnabu Farrah Nazir, Cynghorydd Rhaglenni Cenedlaethol Wellcome Trust, 'effaith helaeth y Dyn Gwyrdd fel brand aflonyddgar a’i ddawn arloesol o ganfod ffyrdd newydd o ymgysylltu cymunedau â gwyddoniaeth ac iechyd'. Mae'r rhaglen yn croesawu popeth, o weithdai tyfu madarch i drafodaethau panel am farwolaeth, ond thema barhaus yr Ardd yw'r byd naturiol a'n perthynas ag ef.

Y 10 mlynedd nesaf

*

Y 10 mlynedd nesaf *

Mae ein degawd cyntaf wedi bod yn siwrnai anhygoel ac wedi adeiladu etifeddiaeth o ddatblygiad celfyddydol, addysg a hyfforddiant, gwyddoniaeth ac ymgysylltu amgylcheddol a newid cymdeithasol sydd wedi cael effaith bellgyrhaeddol a pharhaol.

Cartref parhaol

Dros y 10 mlynedd nesaf byddwn yn sefydlu cartref parhaol lle gallwn ehangu ein mentrau elusennol, gan gynnwys mwy o gyfleoedd i hyfforddi drwy gydol y flwyddyn, codi arian ar gyfer prosiectau cymunedol lleol, a chefnogi artistiaid newydd sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru drwy sefydlu rhaglenni preswyl, gofodau stiwdio ac arddangos, gan gyfoethogi tirwedd ddiwylliannol Cymru.


Strategaeth Ryngwladol

Rydym yn gweithio y tu ôl i'r llenni i sefydlu rhwydweithiau rhyngwladol i gefnogi artistiaid o Gymru gyda'r uchelgais a'r ansawdd i fentro i farchnadoedd diwylliannol newydd. Mae hyn yn cynnwys Rhaglen Gyfnewid Artistiaid Rhyngwladol yn y Dyn Gwyrdd, a chomisiynu cyweithiau rhyngwladol i ganiatáu i artistiaid o Gymru gyd-greu a theithio y tu hwnt i Gymru.

Diolch

Our Founder Fiona Stewart | Ambassador Iwan Rheon | Trustees Natasha Hale, Joanna Owen, Ian Fielder and Dan Langford OBE | project partners, trainers, support workers, producers, directors, technical crew, project managers & all the lovely people who donated to the Green Man Trust over the years | Green Man Festival | Arts Council Wales | Arts Council England | Ashley Family Foundation | Bad Wolf Ltd | BOF (Michael & Leonie Parrish) | Bryan Adams Foundation | Cardiff University | Colin Riordan | Colwinston Charitable Trust | Community Foundation Wales | The Conran Family | Dai Davies | Dave & Karen Broadway | Emma & Ben Shuckburgh | Chris Nott & Elin Pinnell | Gary Morgan | GWR Customer & Community Improvement Fund | Hardlines Cafe | Ian Courtney | Jeremy Morton | Miller Research | Mr Trolley | PRS Foundation | Tom Beech | Ty Cerdd | University of South Wales | Wales Week in London | Welsh Broadcasting Trust | Woodfired Ltd