Ysgol (a Gynorthwyir) yr Eglwys yng Nghymru Priordy Aberhonddu – astudiaeth achos
Dangosodd adroddiad newydd gan y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) mai Cymru yw'r wlad sy'n perfformio waethaf yn y DU o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Mae Aberhonddu yn un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig ym Mhowys ac mae hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yng nghyrhaeddiad disgyblion. Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru (a Gynorthwyir) y Priordy yn cynnwys 162 o ddisgyblion ac mae cyfran uchel (37%) o'r disgyblion hyn yn derbyn prydau ysgol am ddim.
Cefnogodd Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd brosiect oedd yn bwriadu aildanio'r cariad at ddarllen ymhlith plant ysgol. Gyda’n grant bu’n bosibl i'r ysgol brynu peiriant gwerthu llyfrau lle mae disgyblion yn dod o hyd i lyfrau yn lle byrbrydau melys.
‘"Roedd y plant yn ei chael hi'n anodd iawn ailddechrau darllen pan ddaethant yn ôl i'r ysgol gan eu bod wedi arfer gweithio cymaint ar ddyfeisiau digidol, ac roedden ni eisiau dod o hyd i ffordd iddynt ddechrau ymddiddori mewn llyfrau a darllen eto. Mae'r peiriant gwerthu yn ffordd arloesol o greu'r cyffro hwnnw. (...) Hyd yn hyn, mae wedi gweithio’n ardderchog. Mae pob disgybl yn cael tocyn ar ei ben-blwydd neu fel gwobr am ymddygiad a gwaith da ac yn dod at y peiriant gwerthu i ddewis llyfr. Mae'r cyffro a'r disgwyliad yn amlwg iawn wrth iddynt wneud eu penderfyniadau, ac mae’n ffaith bod ein plant wedi dechrau ymgolli unwaith eto mewn llyfrau - sy'n rhywbeth anhygoel. Mae gennym lefel uchel iawn o blant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol, felly mae gallu rhoi rhywbeth i'r plant ar eu pen-blwydd yn ogystal â'r holl ysbryd cymunedol a theuluol hwnnw yn golygu llawer. Mae'n ffordd i ni fuddsoddi popeth yn ôl yn ein pobl ifanc gan mai nhw yw ein dyfodol. Rydym mor ddiolchgar i Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd am ddyfarnu'r grant i ni i brynu'r peiriant, gan y byddai wedi cymryd blynyddoedd lawer i ni godi'r arian i fforddio rhywbeth fel hyn ac mae'r plant wrth eu boddau.' - Claire Pugh, Pennaeth Dros Dro