Rubie Barker – astudiaeth achos
Roedd Rubie yn cwblhau ei chwrs BA Llenyddiaeth Saesneg a Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd pan wnaeth gais llwyddiannus am leoliad Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd. Ymunodd â thîm Marchnata Gŵyl y Dyn Gwyrdd ar gyfer profiad gwaith dwys o 2 fis lle bu'n gweithio'n agos â Front Door Communications, sef Asiantaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymru’r ŵyl. Ar ôl cwblhau ei lleoliad, cafodd Rubie ei recriwtio gan Front Door fel Swyddog Gweithredol Cyfrif tra’n astudio ar gyfer ei gradd meistr mewn Llenyddiaeth Saesneg. Mae hi bellach yn gweithio'n llawn amser gyda'r tîm, yn ysgrifennu datganiadau i'r wasg, blogiau ac yn cynllunio ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol ac mae hi ar dîm ymroddedig y Dyn Gwyrdd ar gyfer y wasg.
'Roedd cael y profiad gwaith yn y Dyn Gwyrdd yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol mor bwysig. Roedd yn gwneud i mi sefyll allan i gyflogwyr y dyfodol, ac roedd yn profi fy mod yn gallu fy addasu fy hun i wahanol swyddi ochr yn ochr ag astudiaethau academaidd. Roedd gweithio yn yr ŵyl yn brofiad anhygoel ac yn rhywbeth na fyddaf fyth yn ei anghofio. Nid dim ond cyngor y tîm oedd yn gwbl arbennig ond hefyd caredigrwydd ac ysbryd yr ŵyl. Roedd gweithio mewn amgylchedd swyddfa yn brofiad newydd i mi, ond cawsom ein hannog i deimlo'n gyfforddus ac i ofyn cwestiynau am y gwaith yr oeddem yn ei wneud. Roedd pob un person y bûm yn gweithio gydag ef yn barod i siarad am ei brofiadau yn dod i mewn i'r diwydiant ac yn cynnig mewnwelediad a chyngor. Bu gweithio gydag ystod mor amrywiol o bobl yn help i mi ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu a'm gwneud yn fwy ymwybodol o gymhlethdodau gweithio gyda chymaint o wahanol bobl.' - Rubie Barker