Astudiaeth Achos Nuha Ruby Ra

O Lundain drwy Cairo, daeth Nuha Ruby Ra i’r brig yn Green Man Rising 2020. Mae hi wedi cael ei chyfrif fel un o'r perfformwyr newydd mwyaf cyffrous a phryfoclyd yn y DU. Rhyddhaodd ddau EP uchel eu parch, gan gynnwys ei EP diweddaraf 'Machine Like Me' a ymddangosodd ym mis Mawrth 2023 a dyma'i chorff mwyaf uchelgeisiol o waith hyd yma. Mae Nuha wedi bod yn teithio'r DU ac Ewrop yn gyson ers Rising gyda pherfformiadau fel Self Esteem, Yard Act, Warmduscher, King Gizzard a'r Wizard Lizard, Alabaster Deplume a mwy. Ymddangosodd mewn sawl gŵyl ledled y DU ac Ewrop gan gynnwys Glastonbury, The Great Escape, Wilderness, Bluedot, Latitude, Boardmasters, Grauzone, Reeperbahn a llawer mwy.

Ar ôl bod yn cystadlu, dychwelodd Nuha i chwarae yn yr Ardd Furiog yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, bu’n feirniad yn Rising yn 2023, ac mae wedi mynd yn ei blaen i dderbyn cyllid crëwr cerddoriaeth PRSF a pherfformio yn arddangosfa PRS Presents 2021.

‘Fe wnaeth Rising fy amlygu i grewyr chwaeth cerddoriaeth anhygoel a helpodd hynny fi i gyrraedd y labeli a’r hyrwyddwyr cywir ar gyfer y prosiect.’ - Nuha Ruby Ra