Alis – astudiaeth achos

Ganed Alis yn San Carlos Sula Cortés, Honduras, a dechreuodd hyfforddodd i fod yn gogydd pan oedd yn 15 oed. Enillodd brofiad mewn llawer o fwytai a cheginau dros gyfnod o tua saith mlynedd a hyd yn oed mynd yn ei flaen i sefydlu ei fusnes cig rhost ei hun. Yn anffodus, parlyswyd y ddinas lle’r oedd yn byw gan gangiau treisgar, ac effeithiodd hyn yn y pen draw yn uniongyrchol ar ei fywyd a’i fywoliaeth ef pan fygythiwyd herwgipio ei chwaer. Bu'n rhaid i Alis, ei fam, ei chwaer a'i frawd ffoi o'r wlad er mwyn dianc rhag y bygythiadau treisgar hyn ac yn 2019 fe ddaethant i’r DU a ddau fis yn ddiweddarach teithio i Gaerdydd. Dechreuodd wirfoddoli gydag Oasis Caerdydd, gan ddysgu Saesneg a rhoi ei sgiliau coginio ar waith fel aelod o dîm y gegin ac yn fuan wedyn daeth yn rhan o'u tîm yn y Dyn Gwyrdd. Ef bellach yw Cogydd a Rheolwr Arlwyo balch trelar bwyd Oasis Caerdydd yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.

"Os byddai’n rhaid i mi ddweud [beth fu fy hoff foment hyd yn hyn] yr adeg pan gefais fy mhrofiad cyntaf o fod yn y Dyn Gwyrdd oedd hynny. Dyma'r tro cyntaf i mi ddelio â chwsmeriaid. Felly roedd yn brawf, nid yn unig o fy sgiliau fel cogydd, ond o ran siarad Saesneg. Roeddwn i'n nerfus iawn! Ac eto roedd yn hwyl... Roedden ni'n brysur iawn, ond roedd yn amser gwych gyda fy ffrindiau yn y gwaith. Roedd yn llawn straen ond yn ddoniol ar yr un pryd ac yn y nos roedden ni’n gallu mynd i wrando ar gerddoriaeth - oedd yn beth da. (...) I ddweud y gwir, nid y digwyddiad sy’n bwysig, ond y bobl. Mae'n braf cael yr adborth, mae'n gwneud i mi deimlo'n falch iawn o'r hyn rydyn ni'n ei wneud a phwy ydyn ni. Mae'r gefnogaeth gan yr holl bobl yn bwysig. Mae'n deimlad da. (...) Nid ein bai ni yw ceisio cael bywyd gwell. Beth bynnag yw'r rheswm, lle bynnag yr ydym wedi bod, nid yw'n ddiogel. Yn ôl yn fy ngwlad fy hun, roedd gen i fy musnes fy hun a fy mywyd fy hun, roedd gen i bopeth. Fe ddes i yma nid gan fy mod i eisiau dod, ond oherwydd bod fy mywyd mewn perygl. Nid yw'n ddewis, mewn gwirionedd. - Alis