Gweni Llwyd Astudiaeth achos

Artist o Gymru yw Gweni Llwyd sy’n gweithio ar draws y byd cyffyrddol a digidol - yn bennaf trwy gyfrwng delweddau-symudol, lluniadu a gosodiadau. Mae gwaith Gweni yn plethu profiadau personol, cyfunol a ‘mwy na dynol’ gyda'i gilydd mewn modd chwareus, gan dynnu sylw at sut mae bywyd i gyd yn rhan o fetabolaeth flêr, sy’n cael ei rhannu.

Cwblhaodd Gweni gwrs preswyl artist Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn 2020 yn ystod y pandemig a chafodd ei dewis ar gyfer y rhaglen yn 2021. Y gwaith comisiwn ar gyfer y Dyn Gwyrdd oedd prosiect awyr agored cyntaf yr artist ar raddfa fawr ac mae wedi teithio o amgylch S1 Art Space yn Sheffield ar ôl inni ei chyflwyno iddynt. Ers hynny mae ei gwaith hefyd wedi cael ei ddangos yng Ngŵyl y Biennale yn Fenis, yn W139 yn Amsterdam ac MaMA yn Rotterdam.

            'Gwyliau yw'r lleoedd perffaith ar gyfer gosodiadau fideo/golau. Mae dangos gwaith yn yr awyr agored yn heriol ond mae'r canlyniadau'n gwbl arbennig ac yn werth yr holl straen. Roedd cefnogaeth y tîm yn amhrisiadwy er mwyn gwneud y gwaith a chynyddu fy hyder yn fy ymarfer ac ynof fi fy hun!' - Gweni Llwyd