Astudiaeth achos Allgymorth Gwyddoniaeth Ysgol Badminton
Nod Allgymorth Gwyddoniaeth Ysgol Badminton yw unioni'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y gwyddorau ffisegol a hyrwyddo’r syniad fod pwysigrwydd rolau merched yn y pynciau STEM yr un mor bwysig ag y mae'n gyffrous. Maen nhw wedi bod yn bresenoldeb cyson yng Ngardd Einstein dros y pedair blynedd diwethaf, ac wedi dod â phrosiectau sy'n dathlu modelau rôl cryf a chadarnhaol merched ifanc sy’n wyddonwyr ac sy’n gwneud gwaith ymarferol cyffrous i ymgysylltu â chynulleidfa deuluol amrywiol yr ŵyl; gan annog pobl i fanteisio ar bynciau STEM yn y gymuned drwy feithrin profiadau positif sy'n seiliedig ar wyddoniaeth. Maen nhw’n rhoi set o brofiadau unigryw i ferched sy'n dymuno astudio gwyddoniaeth y tu hwnt i Safon Uwch y gallent eu defnyddio i gefnogi eu ceisiadau ar gyfer cyrsiau addysg uwch.
"Mae dod ag Allgymorth Gwyddoniaeth Ysgol Badminton i Ŵyl y Dyn Gwyrdd wedi bod yn gyfle eithriadol i'n myfyrwyr rannu eu brwdfrydedd a'u gwybodaeth am wyddoniaeth. Maen nhw’n arbennig o hoff o fod yn rhan o'r gymuned wyddonol ehangach sy'n bresennol yng Ngardd Einstein ac mae'r wefr a gânt wrth arwain y gweithdai hyn o flaen cynulleidfa'r Dyn Gwyrdd yn galonogol iawn. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth eu gweld yn cysylltu â'r plant a'r bobl ifanc sy'n dod draw ac sy'n gadael wedi'u hysbrydoli gan ymdeimlad newydd o ddarganfyddiad. Mae’r myfyrwyr bob amser yn cael amser rhwng y gweithdai i fwynhau holl arlwy’r ŵyl gerddoriaeth wych hon, sy'n fonws!" - Helen Pascoe, Prif Athrawes Partneriaeth Addysg Bryste, Pennaeth Cemeg